Ers dros 40 mlynedd, mae Cylch Ymchwil Rheilffyrdd Cymru (CYRhC) yn dod ag ymchwilwyr a modelwyr at ei gilydd sydd â diddordeb ym mhrif linellau a changhennau Rheilffyrdd
Cymru, yn ogystal â'r tramffyrdd a lleoliadau diwydiannol â chysylltiad rheil ledled y Dywysogaeth.
Er 1978, prif bwrpas CYRhC yw darparu fforwm i aelodau ar gyfer trafodaethau, cyfleusterau ymchwil a chyfrwng hwyluso cysylltiadau ag eraill â diddorebau tebyg er mwyn
osgoi dyblygu gwaith ymchwil. Er mwyn gwireddu'r amcanion hyn, mae canolfan ymchwil gyda CYRhC yn
Rhiwderin, ger Casnewydd yn Ne Cymru, ac mae'r Cylch yn cynnig
cylchlythyr rheolaidd i aelodau, cylchgrawn cyhoeddiedig, cyfarfodydd dan do a gwibdeithiau maes.
Ymunwch รข ni
Gyda channoedd o aelodau ledled y wlad a thu hwnt, bydd rhywun ar gael i helpu gyda chwiliadau a rhoi cyngor ar y ffordd orau o fwrw ymlaen gyda'ch ymchwil.
Felly gall ymuno â'r Cylch arbed llawer o amser ac ymdrech. Yn ogystal, mae cyfleusterau a digwyddiadau eraill ar gael i aelodau
>>.
Hawlfraint
Mae hawlfraint y tudalennau hyn a'r delweddau a'r wybodaeth sydd ynddynt yn perthyn i Gylch Ymchwil Rheilffyrdd Cymru.
Ni chaniateir atgynhyrchu gwybodaeth neu ddelweddau at bwrpas elw heb ganiatâd ysgrifenedig o CYRhC ond caniateir atgynhyrchu gwybodaeth a delweddau yma at
bwrpas defnydd unigol yn unig.